Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull OSCOLA (Ar-lein): Hafan

This page is also available in English

Croeso

Croeso i'r canllaw byr hwn am sut i gyfeirnodi'n gywir gan ddefnyddio arddull gyfeirnodi OSCOLA (Oxford University Standard for Citation Of Legal Authorities. Os nad ydych wedi defnyddio arddull gyfeirnodi OSCOLA o'r blaen, dechreuwch gyda'r tab 'Yr hanfodion' ar y tudalennau hyn i gael argymhellion am yr hyn sydd ei angen.

Tiwtorial ar-lein

Uniondeb Academaidd

Mae'n bwysig eich bod yn darllen Gweithdrefn Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe. Bydd methu cydnabod gwaith rhywun arall (h.y. cyfeirio ato'n gywir mewn papur) yn arwain at ganlyniadau difrifol.

Diffinnir llên-ladrad fel defnyddio gwaith rhywun arall, heb ei gydnabod, gan ei gyflwyno i'w asesu fel petai'n waith y myfyriwr; er enghraifft trwy gopïo neu aralleirio heb gydnabod y ffynhonnell. Llên-ladrad yw hwn boed yn fwriadol neu’n anfwriadol. Os oes angen cyngor ychwanegol ar sut i osgoi llen-lladrad cwbwlhewch y tiwtorial ar-lein Llwyddiant academaidd: Sgiliau ar gyfer dysgu, sgiliau ar gyfer bywyd ar gael trwy Canvas.

Datganiad Hawlfraint

Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.

Creative Commons Licence