Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull OSCOLA (Ar-lein): Cyfathrebu Personol

This page is also available in English

Llythyrau ac e-byst

I gyfeirio gwybodaeth o lythyr neu e-bost, dylech nodi'r math o gyfathrebu a ddilynir gan yr awdur, y derbynnydd a'r dyddiad mewn cromfachau.

Enghreifftiau: Llythyr oddi wrth Gordon Brown at Lady Ashton (20 Tachwedd 2009)

E-bost oddi wrth Amazon.co.uk at yr awdur (16 Rhagfyr 2008).

Nid oes unrhyw newid mewn fformat rhwng cyfeirnod troednodyn a chofnod llyfryddiaeth.