Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull OSCOLA (Ar-lein): Achosion

This page is also available in English

Dod o hyd i'r adroddiadau mwyaf awdurdodol

Mae adroddiad cyfraith yn adroddiad cyhoeddedig o ddyfarniad, sy'n cynnwys gwybodaeth a ffeithiau ychwanegol sy'n ymwneud â'r achos.

Gellir adrodd ar ddyfarniadau gan unrhyw nifer o adroddiadau cyfraith. Fodd bynnag, mae rhai cyfresi yn cael eu hystyried yn fwy awdurdodol nag eraill. Mae'r gyfres Law Reports yn cael ei hystyried fel y mwyaf awdurdodol gan fod y testun yn cael ei gymeradwyo gan y cwnsler a'r barnwr cyn ei gyhoeddi.

Dylech bob amser ddyfynnu'r gyfres fwyaf awdurdodol sydd wedi riportio'r achos.

Dyma'r drefn awdurdod a gydnabyddir yn gyffredin, gyda'r mwyaf awdurdodol ar frig y rhestr:

  • The Law Reports (AC, QB, Ch, Fam)
  • Weekly Law Reports (WLR) or All England Law Reports (All ER)
  • Adroddiadau cyfraith arbenigol, er enghraifft, Lloyds Law Reports (Lloyd's Rep), Industrial Cases Reports (ICR), Medical Law Reports (Med LR) neu Criminal Appeal Reports (Cr App R).

Mae’r holl adroddiadau yng nghyfnodolion a phapurau newydd yn grynodebau, felly dylid eu dyfynnu os nad yw’r penderfyniad ar gael mewn cyfres o adroddiadau cyfraith yn unig.