Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull OSCOLA (Ar-lein): Cyfraith Ewropeaidd

This page is also available in English

Cyfraith Ewropeaidd

Mae cyfraith Ewropeaidd yn cynnwys deddfwriaeth a dyfarniadau gan sefydliadau'r UE a sefydliadau ledled Ewrop. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn gyfrifol am ddeddfwriaeth yr UE a Llys Cyfiawnder Ewrop ac mae'r Llys Cyffredinol yn gyfrifol am wrando ar achosion yr UE. Mae Llys Hawliau Dynol Ewrop yn clywed achosion o unrhyw un o'r 47 gwlad Ewropeaidd yng Nghyngor Ewrop gan gynnwys y DU. Cofiwch NAD yw'r llys hwn yn sefydliad yn yr Undeb Ewropeaidd.

Yn aml mae gan achosion yr UE deitlau hir a dyna pam eu bod yn edrych mor gymhleth. Ond mae'r fformat yn syml.