Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull OSCOLA (Ar-lein): Ailadrodd Dyfyniadau

This page is also available in English

Dyfyniadau dilynol

  • Y tro cyntaf y sonnir am ffynhonnell, rhaid i chi roi'r dyfyniad yn llawn.
  • Mewn dyfyniadau dilynol, nodwch y ffynhonnell yn fyr, a rhowch rif y troednodyn lle gellir dod o hyd i'r dyfyniad llawn. Gweler yr enghraifft yn y blwch (Dyfynnu achos wedi hynny) isod.
  • If a subsequent citation IMMEDIATELY follows the full citation, you can use ibid.

Gweler y blychau isod am enghreifftiau o ddyfyniadau dilynol ar gyfer achos, darn o ddeddfwriaeth a llyfr.

Dyfynnu achos wedi hynny

Dyfyniad llawn:

1Phelps v Hillingdon LBC [2001] 2 AC 619 (HL).

Dyfyniad dilynol yn syth ar ôl y dyfyniad llawn:

2 ibid. 

. . .

Dyfyniad dilynol gan ddefnyddio ffurf fyrrach o enw achos a chroes-ddyfyniad i droednodyn 1 lle gellir dod o hyd i'r dyfyniad llawn:

10 Phelps (n 1).  

Dyfynnu deddfwriaeth wedi hynny

Dyfyniad llawn gydag enw'r statud a fersiwn fyrrach:

32 Nuclear Installations Act 1965 (NIA 1965) s 7(1). 

. . .

Dyfyniad dilynol gan ddefnyddio fersiwn fyrrach o'r statud:

40 NIA 1965, s 12. 

Dyfyniad dilynol o lyfr

Dyfyniad llawn:

3 Jonathan Herring, Medical Law (OUP 2011) 52. 

. . .

Cyfenw a chroes-ddyfynnu awduron i droednodyn rhif 3:

26 Herring (n 3) 125. 

Dyfynnwyd y ffynhonnell wreiddiol eto ond gyda gwahanol rifau tudalennau:

27 ibid 271-78.