Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull OSCOLA (Ar-lein): Adroddiadau Swyddogol

This page is also available in English

Adroddiadau swyddogol

 

Fel arfer, cyhoeddir adroddiadau swyddogol gan adran o’r llywodraeth neu sefydliad er, weithiau, enwir awdur unigol. Os oes gan y cyhoeddiad ISBN (International Standard Book Number) dylech chi gyfeirio ato fel llyfr. Fel arfer, bydd yr ISBN wedi’i nodi ar y dudalen deitl.  

 

Awdur, Teitl (blwyddyn, cyhoeddwr,r rhifyn) rhif y dudalen  

Enghraifft o adroddiad sy’n cynnwys ISBN:

 

Department of Health, Our Healthier Nation: A Contract for Health Cm 3852 (The Stationary Office 1998).

 

 

Os nad oes ISBN, cyfeiriwch ato gan ddefnyddio’r fformat isod:  

Awdur, │’Teitl’ │(gwybodaeth ychwanegol, │cyhoeddwr │blwyddyn)  

Enghraifft o adroddiad heb ISBN:

Sundeep Aulakh and others, 'Mapping Advantages and Disadvantages: Diversity in the Legal Profession in England and Wales' (SRA 2017).

University of Oxford, 'Report of Commission of Inquiry' (OUP 1966) vol 1, ch 3. 

 

Mewn troednodyn, rhoddir enw’r awdur yn gyntaf (fel yn yr enghraifft uchod) wedi’i ddilyn gan y cyfenw a rhoddir atalnod llawn ar ddiwedd y troednodyn. Hefyd, gall fod pinbwynt.  

Mewn llyfryddiaeth, rhoddir cyfenw’r awdur yn gyntaf a dilynir hyn gan flaenlythrennau ei enw. Ni roddir atalnod llawn ar y diwedd ac ni ddefnyddir pinbwynt.  

I gyfeirio at adroddiad swyddogol sydd ar-lein yn unig, defnyddiwch y fformat canlynol: 

awdur,  'teitl'  (Mis Blwyddyn)  <URL>  dyddiad cyrchu diwethaf 

 

The UK involvency Service, Implementation of UNCITRAL Model Law on Cross-Border Insolvency in Great Britain: Summary of Responses and Government Reply' (March 2006) <www.insolvencydirect.bis.gov.uk/insolvencyprofessionandlegislation/con_doc_register.htm>/registerindex> accessed 17 Feb 2012

 

Nid oes gwahaniaeth rhwng cyfeirio’r troednodyn a’r llyfryddiaeth ar wahân i gynnwys atalnod llawn yn y troednodyn ar ôl y cyfeiriad.