Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull OSCOLA (Ar-lein): Cyfweliadau

This page is also available in English

Cyfweliadau

I greu cyfeiriad at gyfweliad a gynhaliwyd gennych, dylai eich cyfeirnod gynnwys enw, swydd a sefydliad (os yw'n berthnasol) y cyfwelai, ac yna lleoliad a dyddiad mewn cromfachau.

Fformat: Enw, Swydd, Sefydliad (lleoliad, dyddiad)

Enghraifft: Cyfweliad ag Irene Kull, Deon Cynorthwyol, Cyfadran y Gyfraith, Prifysgol Tartu (Tartu, Estonia, 4 Awst 2003)

Os cynhelir y cyfweliad gan rywun arall, dylai'r cyfeirnod ddechrau gydag enwau'r cyfweliadau ac yna dilyn yr un fformat.

Enghraifft: Timothy Endicott a John Gardner, Cyfweliad â Tony Honoré, Athro Cyfraith Sifil Emeritws Regius, Prifysgol Rhydychen (Rhydychen, 17 2007)

Nid oes unrhyw newid mewn fformat rhwng cyfeirnod troednodyn a chofnod llyfryddiaeth.