Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull OSCOLA (Ar-lein): Draethawd Ymchwil

This page is also available in English

Traethawd Hir neu Draethawd Ymchwil

I greu cyfeiriad at draethawd hir neu draethawd ymchwil, dylech gynnwys yr Awdur a'r teitl, ac yna'r math o draethawd ymchwil, Prifysgol a blwyddyn ei gwblhau mewn cromfachau.

Fformat: Awdur, 'Teitl' (math o draethawd ymchwil / traethawd hir, Prifysgol | blwyddyn o gwblhau)

EnghraifftJavan Herberg, 'Injunctive Relief for Wrongful Termination of Employment' (DPhil thesis, University of Oxford 1989).

Nid oes unrhyw newid mewn fformat rhwng cyfeirnod troednodyn a chofnod llyfryddiaeth.