Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull OSCOLA (Ar-lein): Papurau Gorchymyn

This page is also available in English

Papurau Gorchymyn

Papur Gorchymyn yw dogfen a roddir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac a gyflwynir gerbron y Senedd.   

Gall papurau gwynion, papurau gwyrddion, cytundebau, ymatebion gan Lywodraethau, biliau drafft, adroddiadau gan Gomisiynau Brenhinol, adroddiadau gan ymholiadau annibynnol ac amrywiaeth o sefydliadau Llywodraethol gael eu rhyddhau fel Papurau Gorchymyn, fe’u gelwir yn bapurau gorchymyn oherwydd cânt eu cyflwyno gerbron y Senedd yn ffurfiol “Ar Orchymyn Ei Mawrhydi".  

I gyfeirio gwybodaeth o Bapur Gorchymyn, mae angen i chi gynnwys yr Awdur a'r teitl mewn llythrennau italig, ac yna rhif y papur Gorchymyn a'r flwyddyn mewn cromfachau.

Fformat: Awdur, Teitl (Rhif Papur Gorchymyn, blwyddyn)

Enghraifft: Secretary of State for the Home Department, Identity Cards: The Next Steps (Cm 6020, 2003).

Byddwch yn ofalus i nodi'r talfyriad ar gyfer Papur Gorchymyn fel y dangosir ar ei dudalen deitl. Bu chwe chyfres o Bapurau Gorchymyn ac mae gan bob cyfres ei dalfyriad unigryw ei hun.

Nid oes unrhyw newid mewn fformat rhwng cyfeirnod troednodyn a chofnod llyfryddiaeth.

 

 

Talfyriadau ar gyfer y Gyfres Papur Gorchymyn

Cyfres Gyntaf 1 - 4222 1833 - 1869
Ail Gyfres C 1 - C 9550 1870 - 1899
Trydedd Gyfres Cd 1 - Cd 9239 1900 - 1918
Pedwaredd Gyfres Cmd 1 - Cmd 9889 1919 - 1956
Pumed Gyfres Cmnd 1 - Cmnd 9927 1956 - 1986
Chweched Gyfres Cm 1 -  1986 -