Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Podlediadau

This page is also available in English

Podlediadau

Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at bodlediad yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.

Enghraifft o bodlediad - Cydnabod o fewn y testun

Enghraifft o bodlediad:

Mae Blaxland (2019-presennol) yn dangos...
NEU
...(Blaxland, 2019-presennol).

Enghraifft o bennod podlediad - Cydnabod o fewn y testun

Enghraifft o bennod podlediad:

Mae Jack (2022) yn dangos...
NEU
...(Jack, 2022).

Enghraifft o bodlediad - Rhestr cyfeiriadau

Enw'r cyflwynydd. (Cyflwynydd). (Blynyddoedd). Teitl [Podlediad sain]. Cyhoeddwr. URL

Enghraifft podlediad:

Blaxland, S. (Cyflwynydd). (2019-presenol). Exploring global problems [Podlediad sain]. Prifysgol Abertawe. https://www.swansea.ac.uk/cy/ymchwil/podlediadau/

Os ceir mynediad iddo trwy ap, hepgorer yr URL o'r cyfeirnod.

Enghraifft o bennod podlediad - Rhestr cyfeiriadau

Enw'r cyflwynydd. (Cyflwynydd). (Blwyddyn, Mis Dyddiad). Teitl (Rhif y bennod os yw'n hysbys) [Pennod podlediad sain]. Yn Teitl y bodlediad. Cyhoeddwr. URL

Enghraifft o bennod podlediad:

Jack, M. (Cyflwynydd). (2022, Awst 16). Motivated to inspire (Rhif 22) [Pennod podlediad sain]. Yn A pinch of SALT. Prifysgol Abertawe. https://www.swansea.ac.uk/cy/ggs/salt/a-pinch-of-salt/podlediad-22/

Os ceir mynediad iddo trwy ap, hepgorer yr URL o'r cyfeirnod.