Mae amrywiaeth eang o offer ar gael am ddim i'ch helpu gyda dyfynnu a chreu rhestrau o gyfeiriadau, ond does dim un ohonynt yn berffaith. Felly, mae'n bwysig eich bod yn gyfarwydd â hanfodion Cyfeirnodi a'r pwyntiau allweddol i fod yn ymwybodol ohonynt. Mae Microsoft Word er enghraifft yn cynnwys teclyn cyfeirio syml. Gellir gweld hyn yn y tab cyfeiriadau yn Word. Bydd angen i chi nodi'r manylion sy'n ofynnol ar gyfer y cyfeirnod â llaw ond yna bydd yr offeryn yn fformatio'r cyfeirnod ar eich cyfer chi. Sylwch, ar hyn o bryd mae Word yn cefnogi APA (6ed arg.) yn unig.
Rydyn ni'n eu hargymell
iFind, sef catalog y llyfrgell, yw’r brif ffordd o chwilio am adnoddau a ddarperir gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe.