Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Cyfeirnodi eilaidd

This page is also available in English

Cydnabod o fewn y testun

Cyfeirnodi eilaidd
Dyma pan fydd angen i chi gyfeirio at waith awdur heb ddarllen y gwaith gwreiddiol, ond rydych wedi dysgu amdano gan awdur arall. Defnyddiwch y gwaith gwreiddiol lle bynnag y bo modd. Os nad yw hyn yn ymarferol, rhaid i chi egluro eich bod heb ddarllen y gwreiddiol drwy gyfeirio at y gwaith lle daethoch o hyd i’r cyfeiriad ato.

Er enghraifft:
Mae cylch adlewyrchol Gibbs (1988) fel y dyfynnwyd yn Jasper (2013) yn dangos bod...
NEU
Mae cylch adlewyrchol Gibbs yn theori bwysig ym maes ymarfer myfyriol (Gibbs, 1988, fel y dyfynnwyd yn Jasper, 2013).

Rhestr cyfeiriadau

Yn y rhestr gyfeiriadau dylech gynnwys manylion y gwaith rydych wedi’i ddarllen yn unig

Jasper, M. (2013). Beginning reflective practice (2il arg.). Cengage Learning.