Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Facebook

This page is also available in English

Facebook

Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at Facebook yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.

Dyfynnu yn y testyn: Post Facebook

Enghraifft:

Mae News From Science (2019) yn nodi bod
NEU
...(News From Science, 2019).

Cydnabod o fewn y testun: Tudalen Facebook

Enghraifft:

Mae Llyfrgell Prifysgol Abertawe (n.d.) yn nodi bod...
NEU

...(Llyfrgell Prifysgol Abertawe, n.d.).

Reference list: Post Facebook

Enw. (Blwyddyn, Mis Dydd). Ugain gair cyntaf y teitl [Disgrifiad o glywelediadau]. Facebook. URL 

Example:

News From Science. (2019, Mehefin 21). Are you a fan of astronomy? Enjoy reading about what scientists have discovered in our solar system—and beyond? This [Delwedd ynghlwm] [Diweddariad statws]. Facebook. https://www.facebook.com/ScienceNOW/photos/a.117532185107/10156268057260108/?type=3&theater 

DS: Os yw'r post yn cynnwys delweddau, fideos, mân-luniau i ffynonellau allanol, neu gynnwys o bost arall (megis wrth rannu dolen), nodwch hynny mewn cromfachau sgwâr.

Disgrifiwch y math o bost (e.e., “[Diweddariad statws],” “[Fideo]”) mewn cromfachau sgwâr ar ôl unrhyw ddisgrifiad o gynnwys ynghlwm.

Rhestr cyfeiriadau: Tudalen Facebook

Enw Facebook. (Blwyddyn). Teitl [Tudalen Facebook]. Facebook. Adalwyd Blwyddun, Mis Dydd o URL

Enghraifft:

Swansea University Library. (n.d.). Home [Tudalen Facebook]. Facebook. Adalwyd Awst 5, 2020, o https://www.facebook.com/SwanseaUniLib

NB: Defnyddiwch deitl y dudalen yn y cyfeirnod (e.e., “Home,” “About,” “Reviews”).

Rhowch ddyddiad adalwyd oherwydd bod y cynnwys wedi'i gynllunio i newid dros amser ac nad yw wedi'i archifo.