Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein)

This page is also available in English

Cydnabod o fewn y testun

Arddull awdur-ddyddiad yw APA lle caiff cyfeiriadau eu dyfynnu yn y testun, ac yna eu rhestru mewn rhestr gyfeiriadau yn nhrefn yr wyddor ar ddiwedd eich aseiniad. 

Gall fod yn anodd nodi awdur tudalen we o wefan sefydliadol neu'r llywodraeth, felly ystyrir y sefydliad neu asiantaeth y llywodraeth yn awdur, oni bai y nodir fel arall.

Un awdur

Wrth ddyfynnu mewn testun, rhaid darparu cyfenw’r awdur a’r flwyddyn gyhoeddi yn y testun.

Enghraifft:

Mae Lee (2021) yn awgrymu... 
NEU
....(Lee, 2021).

Dau awdur

Os oes gan waith ddau awdur, dylech gyfeirio at y ddau ohonynt.

Enghraifft:

Mae McMillan a Weyers (2021) yn nodi bod... 
NEU
...(McMillan & Weyers, 2021).

Sylwer: Cysylltwch enwau'r ddau awdur ag a/ac pan fyddwch yn eu henwi y tu allan i gromfachau. Cysylltwch yr enwau ag ampersand (&) y tu mewn i gromfachau.

Tri awdur neu fwy

Os oes tri awdur neu fwy mewn gwaith dim ond yr awdur cyntaf y dylid ei enwi ac yna et al. a'r dyddiad

Enghraifft:
Yn ôl McDuff et al. (2017)....
NEU
...(McDuff et al., 2017).

Awduron Corfforaethol

Os oes gan gyfeirnod awdur grŵp, weithiau gellir byrhau'r enw. Peidiwch â defnyddio byrfoddau yn y testun oni bai eu bod yn rhai confensiynol a bod y darllenydd yn fwy cyfarwydd â'r byrfodd na'r ffurf gyflawn, neu oni bai fod modd arbed lle sylweddol.

Enghraifft:

Y tro cyntaf:

Mae'r World Health Organization (WHO, 2018) yn nodi bod...
NEU
...(World Health Organization (WHO), 2018).

Pob tro wedi hynny:

Mae'r WHO (2018) yn nodi bod...
NEU
...(WHO, 2018).

Sylwer: Os byddwch yn cydnabod yr un ffynonell sawl gwaith yn eich aseiniad, defnyddiwch acronymau. Rhaid i chi egluro’r acronym yn llawn y tro cyntaf, gyda’r acronym ei hun, fel bod yr ystyr yn amlwg i’r darlithydd.