Skip to main content
It looks like you're using Internet Explorer 11 or older. This website works best with modern browsers such as the latest versions of Chrome, Firefox, Safari, and Edge. If you continue with this browser, you may see unexpected results.

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Erthygl mewn cyfnodolyn ag un awdur

This page is also available in English

Erthygl mewn cyfnodolyn ag un awdur

Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at erthygl mewn cyfnodolyn sydd ag un awdur yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.

Dyfynnu yn y testun

Wrth ddyfynnu mewn testun, rhaid darparu cyfenw’r awdur a’r flwyddyn gyhoeddi yn y testun.

Enghraifft:

Mae Nakley (2015) yn nodi bod...
NEU
...(Nakley, 2015).

Enghraifft:

Mae Lee (2021) yn honi bod...
NEU
...(Lee, 2021).

Rhestr cyfeiriadau

Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl yr erthygl. Teitl y Cyfnodolyn, Rhif y Gyfrol(rhifyn neu rif y rhan), rhifau tudalennau. DOI

Enghreifftiau:

Nakley, S. (2015). On the unruly power of pain in Middle English drama. Literature and Medicine, 33(2), 302-325. https://doi.org/10.1353/lm.2015.0022

Lee, D. (2021). Bringing personality to personal finance. Accounting Today, 35(3), 8.