Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein)

This page is also available in English

Cyhoeddiadau Swyddogol

Mae cyhoeddiad swyddogol yn un a gyhoeddwyd gan y Senedd, adran o’r llywodraeth (y DU neu dramor), llywodraeth wedi’i datganoli neu sefydliad rhyngwladol fel yr Undeb Ewropeaidd neu Sefydliad Iechyd y Byd. Nid oes awdur personol weithiau, felly tybir mai’r sefydliad yw’r awdur corfforaethol.

Cydnabod o fewn y testun

Enghraifft:

Y tro cyntaf:

Mae'r National Institute for Health and Care Excellence (NICE, 2022) yn nodi bod...
NEU
...(National Institue for Health and Care Excellence (NICE), 2022).

Pob tro wedi hynny:

Mae'r NICE (2022) yn nodi bod...
NEU
...(NICE, 2022).

Sylwer: Os byddwch yn cydnabod yr un ffynonell sawl gwaith yn eich aseiniad, defnyddiwch acronymau. Rhaid i chi egluro’r acronym yn llawn y tro cyntaf, gyda’r acronym ei hun, fel bod yr ystyr yn amlwg i’r darlithydd.

Rhestr cyfeiriadau

Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. neu Awdur Corfforaethol. (Blwyddyn). Teitl (Rhif y gyfres neu rif cyfeirio os yw ar gael). Cyhoeddwr. URL

Enghraifft:

Ashton, K., Bellis, M. A., Davies, A., Hardcastle, K. A., & Hughes, K. (2016). Adverse childhood experiences and their association with chronic disease and health service use in the Welsh adult population. Public Health Wales. http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/888/ACE%20Chronic%20Disease%20report%20%289%29%20%282%29.pdf

National Institute for Health and Care Excellence. (2022). Type 2 diabetes in adults: Management (NICE Guideline NG28). https://www.nice.org.uk/guidance/ng28/resources/type-2-diabetes-in-adults-management-pdf-1837338615493

DS: Pan fydd yr awdur ac enw'r Cyhoeddwr yr un peth, hepgor enw'r Cyhoeddwr er mwyn osgoi ailadrodd.