Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Cyfieithiad

This page is also available in English

Cyfieithiad

Isod fe welwch arweiniad ac enghreifftiau o sut i nodi cyfeiriad at waith wedi'i gyfieithu yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.

Cydnabod o fewn y testun

Mae Laplace (1814/1951) yn nodi bod...
NEU

…(Laplace, 1814/1951).

 

 

 

 

Cydnabod o fewn y testun - Llyfr mewn iaith arall

Mae Piaget (1957) yn nodi bod...
NEU
...(Piaget, 1957).

Rhestr cyfeiriadau

Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl (arg.). (Llythrennau blaen. Cyfenw, Cyf.). Cyhoeddwr. (Cyhoeddwyd y gwaith gwreiddiol bbbb).

Enghraifft:
Laplace, P. S. (1951). A philosophical essay on probabilities. (F. W. Truscott & F.
 F. L. Emory, Cyf.). Dover. (Cyhoeddwyd y gwaith gwreiddiol 1814).
 

Sylwer: Pan fyddwch yn dyfynnu gwaith a ailgyhoeddwyd, megis y gwaith uchod yn eich testun, dylai ymddangos gyda'r ddau ddyddiad: Laplace (1814/1951).

Rhestr cyfeiriadau - Llyfr mewn iaith arall

Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl y gwaith yn yr iaith wreiddiol [cyfieithiad Saesneg o'r teitl]. Cyhoeddwr. DOI (os oes un i gael) 

Enghraifft:

Piaget, J. (1957). Le jugement moral chez l'enfant [The moral judgement of the child]. Presses Universitaires de France.