Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein)

This page is also available in English

Cydnabod o fewn y testun

Mae dwy ffordd i gyfeirio mewn testunAralleirio neddyfyniadau uniongyrchol.

Dyfyniadau Uniongyrchol
Peidiwch â gorddefnyddio dyfyniadau uniongyrchol yn eich aseiniadau. Ond, os hoffech eu defnyddio, cofiwch fod angen i chi ddefnyddio dyfynodau a chynnwys yr awdur, y dyddiad a rhif y dudalen (rhif y paragraff os nad yw rhif y dudalen ar gael).

Er enghraifft: Yn ôl Esterhuizen (2023) "Individuals are unique, and human factors may be uncertain, even messy" (t. 10).

NEU

"Create a realistic revision schedule that fits your life" (Swansea University Students' Union, 2024, para. 2).

Rhestr cyfeiriadau

Esterhuizen, P. (2023). Reflective practice in nursing (5ed arg.). Learning Matters.

Swansea University Students' Union. (2024, Mai 10). Essential study tips for students. https://www.swansea-union.co.uk/news/article/studyaid/Essential-Study-Tips-for-Students/