Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Rhestr Cyfeiriadau

This page is also available in English

Rhestr cyfeiriadau

Dyma bwyntiau allweddol i'w cofio wrth greu eich rhestr gyfeiriadau:

  • Dylid dechrau'r rhestr gyfeiriadau ar dudalen newydd.
  • Dylai'ch rhestr gyfeiriadau gynnwys popeth* rydych wedi'i ddyfynnu yn eich aseiniad, NID popeth rydych wedi'i ddarllen (a elwir yn llyfryddiaeth).
  • Dylai fod yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw'r awdur.
  • Dylai fod bylchau dwbl rhwng llinellau a dylai fod wedi'i mewnoli.
  • *Oni bai am Ddeddfau a chyfraith achos – ni restrir y rhain yn y rhestr gyfeiriadau.

Gweler y sgrinlediad sy'n dangos sut y gallwch roi trefn ar eich rhestr gyfeiriadau'n gywir gan ddefnyddio Word.

Sut i fformatio eich rhestr gyfeiriadau (fideo 30 eiliad)