Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Llyfr â dau awdur

This page is also available in English

Llyfr â dau awdur

Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at lyfr sydd â dau awdur yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.

Cydnabod o fewn y testun

Os oes gan waith ddau awdur, dylech gyfeirio at y ddau ohonynt.

Enghraifft:

Mae McMillan a Weyers (2011) yn nodi bod... 
NEU
...(McMillan & Weyers, 2011).

Sylwer: Cysylltwch enwau'r ddau awdur ag a/ac pan fyddwch yn eu henwi y tu allan i gromfachau. Cysylltwch yr enwau ag ampersand (&) y tu mewn i gromfachau.

Rhestr cyfeiriadau

Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen., & Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl (arg.). Cyhoeddwr. DOI (os yw ar gael)

Enghraifft:
McMillan, K., & Weyers, J. D. B. (2011). How to write essays & assignments. Pearson.