Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Setiau data ac ystadegau

This page is also available in English

Ystadegau a Data sy'n deillio o

Pan fyddwch yn defnyddio setiau data rhifol neu dabl ystadegol a baratowyd, mae'n rhaid i chi ddyfynnu'r man y gwnaethoch gyrchu'r wybodaeth ohono. Byddwch yn sylwi fwyfwy eich bod yn defnyddio data sy’n dod o ffynonellau eraill o ddata.  Mae cronfeydd data'n aml yn galluogi defnyddwyr i gasglu data. Mae hyn yn gofyn i chi ddyfynnu gan ddefnyddio'r fformat 'data deilliannol.' Rhestrir enghreifftiau o'r ddau isod.

Sylwer: Nid oes angen nodi'r dyddiad adalw fel arfer ar gyfer setiau data, ond os yw'n debygol y bydd yr wybodaeth yn newid, argymhellir cynnwys yr wybodaeth hon.

Cydnabod o fewn y testun: Un set data

Enghraifft:

Mae Financial Analysis Made Easy (2018) yn dangos bod...
NEU

...(Financial Analysis Made Easy, 2018).
 

Enghraifft:

Yn ôl yr Office for National Statistics (2018)...
NEU

...(Office for National Statistics, 2018).

Cydnabod o fewn y testun: Data sy'n deillio o

Enghraifft:
Mae Financial Analysis Made Easy (2018) yn dangos bod...

NEU
...(Financial Analysis Made Easy, 2018).

Rhestr cyfeiriadau: Un set data

Awdur corfforaethol. (Blwyddyn). Teitl y set ddata. Enw'r cronfa ddata. URL 

Enghraifft:

Financial Analysis Made Easy. (2018). John Wiley & Sons Ltd: Company financial data. http://fame2.bvdep.com/


Office for National Statistics. (2018). Population estimates for UK, England and Wales, Scotland and Northern Ireland: Mid-2017. https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/
populationandmigration/populationestimates/bulletins/annualmidyearpopulationestimates/mid2017

Rhestr cyfeiriadau: Data sy'n deillio o

Awdur corfforaethol. (Blwyddyn). Data o: Teitl y set ddata. Enw'r cronfa ddata. URL

Example

Financial Analysis Made Easy. (2018). Data o: Construction companies in Wales with a turnover exceeding £10,000. http://fame2.bvdep.com/