Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Barddoniaeth

This page is also available in English

Barddoniaeth

Isod ceir arweiniad ac enghreifftiau o sut i gyfeirnodi cerdd yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirnodi ar y diwedd.

Nid yw’r ffynhonnell hon yn cael ei chynnwys yn llawlyfr Arddull APA. Dylech hefyd wirio gyda’ch darlithydd wrth ddefnyddio’r awgrymiadau hyn

Cydnabod o fewn y testun

Dylech ddyfynnu’r gerdd gydag enw’r bardd a dyddiad cyhoeddi’r ffynhonnell rydych chi’n ei defnyddio.

Enghreifftiau

"O, my America, my Newfoundland" (Donne, 2003, p.14)

Mae Hardy’n (1930) arbrofi â...

Os hoffech gyfeirio at linell benodol gallwch ychwanegu (llinell x) neu (llinellau xx-yy) yn y man priodol yn eich testun. 

Enghreifftiau

 Fel y dadleua Donne (2003, p. 11) "Love, all alike, no season knows nor clime Nor hours, days, months which are the rags of time" (lines 9-10).

Rhestr cyfeiriadau

Mae tair ffordd o gyfeirnodi cerdd gan ddefnyddio dull APA.

Casgliad o farddoniaeth gan un awdur

Dylid trin y rhain fel llyfr gan un awdur.

Enghreifftiau

Pope, A. (1963). The poems of Alexander Pope. (J. Butt, Gol.). London: Methuen.

Hardy, T. (1930). The collected poems of Thomas Hardy (4ydd arg.). London: Macmillan.

Blodeugerdd o farddoniaeth

Dylid trin y rhain fel darn o waith o fewn blodeugerdd

Enghreifftiau

Wordsworth, W., & Coleridge, S. T. (1798). Lyrical ballads. Yn D. Wu (Gol.), Romanticism: An anthology (tt. 333-415). Cambridge University Press.

O'r we

Enghreifftiau

Donne, J. (2003). To his mistress going to bed. Adalwyd o http://www.luminarium.org/sevenlit/donne/elegy20.htm