Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Deddfau Seneddol

This page is also available in English

Cydnabod o fewn y testun

Y tro cyntaf:
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 [DGCLC]

Pob tro wedi hynny:
DGCLC 2014

Dyfynnu adran benodol o ddeddf: enghreifftiau

Mae s.5 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi...
NEU
Yn ôl s.5 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014...
NEU
Mae angen cefnogi gofalwyr a hyrwyddo'u lles (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, s.5).

Rhestr cyfeiriadau

Ni ddylid cynnwys Deddfau Seneddol mewn rhestrau cyfeiriadau APA o gwbl. Fodd bynnag, wrth gyfeirio at y ddeddf am y tro cyntaf, dylid rhoi dyfyniad llawn yn nhestun eich aseiniad.