Skip to Main Content
It looks like you're using Internet Explorer 11 or older. This website works best with modern browsers such as the latest versions of Chrome, Firefox, Safari, and Edge. If you continue with this browser, you may see unexpected results.

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Argraffiadau Beirniadol

This page is also available in English

Argraffiadau Beirniadol

Isod, ceir arweiniad ac enghreifftiau o sut i gyfeirnodi Argraffiad Beirniadol yng ngorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeiriadau ar y diwedd. 

Cydnabod o fewn y testun

Mae gan argraffiad beirniadol system dyddiad dwbl lle’r ydych yn defnyddio dyddiad y testun gwreiddiol a dyddiad yr argraffiad, wedi’u gwahanu gyda slaes.

Enghreifftiau:
 Yn ôl Shelley (1818/2012)...

NEU
... (Shelley, 1818/2012).

Rhestr cyfeiriadau

Yn printiedig

Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl y llyfr  (Golygydd, Goln.; argraffiad).  Cyhoeddwr. (Cyhoeddwyd y gwaith gwreiddiol bbbb).

Enghraifft: 

Shelley, M. (2012). Frankenstein (J. P. Hunter, Gol.; 2il Norton critical arg.). W. W. Norton. (Cyhoeddwyd y gwaith gwreiddiol 1818).

 

Ar-lein

Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl y llyfr  (Golygydd, Goln.; argraffiad).  Cyhoeddwr. DOI (Cyhoeddwyd y gwaith gwreiddiol bbbb).

Enghraifft:

Shelley, M. (2012). Frankenstein (J. P. Hunter, Gol.; 2il Norton critical arg.). W. W. Norton. https://doi.org/10.1037/10319-010 (Cyhoeddwyd y gwaith gwreiddiol 1818).