Enghraifft:
Mae Smith (2015) yn dangos bod...
NEU
...(Smith, 2015).
DS: I gyfeirio at le neu olygfa benodol mewn ffilm neu fideo ayyb. bydd angen i chi ychwanegu stamp amser i’r dyfyniad yn y testun.
Enghraifft:
Mae Smith (2015, 4:03) yn dangos bod...
NEU
...(Smith, 2015, 4:03).
Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Cyfarwyddwr). (Blwyddyn rhyddhau). Teitl y ffilm [Ffilm]. Cwmni Cynhyrchu.
Enghraifft:
Smith, H. (Cyfarwyddwr). (2015). Zombie cats [Ffilm]. Elstree Studios.
DS: Os yw teitl gwreiddiol y gwaith yn iaith wahanol i deitl y papur rydych chi'n ei ysgrifennu, darparwch gyfieithiad o'r teitl mewn cromfachau sgwâr ar ôl y teitl.
Alfredson, T. (Cyfarwyddwr). (2008). Låt den rätte komma in [Let the right one in] [Ffilm]. Magnolia.