Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Llyfr wedi'i olygu

This page is also available in English

Llyfr wedi'i olygu

Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at lyfr sydd wedi'i olygu yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.

Cydnabod o fewn y testun

Enghraifft:

Mae Cash a Smolak (2011) yn nodi bod...
NEU

...(Cash & Smolak, 2011).

Enghraifft:

Mae Cassell et al. (2018) yn nodi bod...
NEU

...(Cassell et al., 2018).

Rhestr cyfeiriadau

Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Gol.). (Blwyddyn). Teitl (arg.). Cyhoeddwr. DOI (os yw ar gael)

Sylwer: Defnyddiwch (Gol.) os oes un golygydd a (Goln.) os oes dau neu ragor o olygyddion.

Enghraifft:

Cash, T. F., & Smolak, L. (Goln.). (2011). Body image: A handbook of science, practice, and prevention (2il arg.). Guilford Press.

Cassell, C., Cunliffe, A. L., & Grandy, G. (Goln.). (2018). The Sage handbook of qualitative business and management research

          methods. Sage.