Mae dod o hyd i wybodaeth ar y rhyngrwyd yn hawdd, ond mae dod o hyd i wybodaeth sydd o safon dda ac sy’n ddibynadwy yn anoddach nag y byddwch yn ei ddisgwyl. Cyn i chi ddefnyddio unrhyw adnodd o’r rhyngrwyd ar gyfer eich aseiniad dylech chi ofyn i’ch hun “A yw’r dudalen we hon gystal â’r wybodaeth y byddwch chi’n dod o hyd iddi mewn llyfr neu gyfnodolyn academaidd?”
Dylech chi wirio bod y wybodaeth yn ddibynadwy ac yn gywir.
Dylech wirio:
Enghraifft:
Mae'r World Health Organization (2022) yn nodi bod...
NEU
...(World Health Organization, 2022).
Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen neu Awdur Grŵp. (Blwyddyn, Mis Dydd). Teitl. Enw'r wefan. URL
Enghraifft:
Gallagher, J. (2020, Awst 4). Testing and tracing 'key to schools returning', scientists say. BBC News. https://www.bbc.co.uk/news/health-53638083
World Health Organization. (2022, Hydref 1). Ageing and health. https://www.who.int/news-room/fact-sheets/detail/ageing-and-health
DS: Pan fydd yr awdur ac enw'r wefan yr un peth, hepgor enw'r wefan er mwyn osgoi ailadrodd.