Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Darlith TED

This page is also available in English

Darlith TED

Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at Ddarlith TED yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.

Cydnabod o fewn y testun: Darlith TED o wefan TED

Enghraifft:

Mae Cuddy (2012) yn nodi bod...
NEU

...(Cuddy, 2012).

Cydnabod o fewn y testun: Darlith TED o YouTube

Enghraifft:

Mae TED (2019) yn nodi...
NEU
...(TED, 2019).

DS: Pan nad yw'r siaradwr wedi'i restru fel yr awdur, integreiddiwch ei enw i'r naratif os dymunir:

Esboniodd Shane fod y deallusrwydd artiffisial yn dechnegol “wedi gwneud yr hyn y gwnaethon nhw ofyn iddo ei wneud - dim ond trwy ddamwain y gwnaethon nhw ofyn iddo wneud y peth anghywir” (TED, 2019, 8:51).

Rhestr cyfeiriadau: Darlith TED o wefan TED

Cyfenw y siaradwrLlythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn, Mis Dydd). Teitl [Fideo]. TED Conferences. URL

Enghraifft:

Cuddy, A. (2012, Mehefin). Your body language may shape who you are [Fideo]. TED Conferences.  https://www.ted.com/talks/amy_cuddy_your_body_language_shapes_who_you_are 

Rhestr cyfeiriadau: Darlith TED o YouTube

TED. (Blwyddyn, Mis Dydd). Teitl | Siaradwr [Fideo]. YouTube. URL 

Enghraifft:

TED. (2019, Tachwedd 13). The danger of AI is weirder than you think | Janelle Shane [Fideo]. YouTube. https://www.youtube.com/watch?v=OhCzX0iLnOc 

DS: Pan fydd y TED Talk ar YouTube, rhestrwch berchennog y cyfrif YouTube (yma, TED) fel yr awdur i gynorthwyo i'w adfer.