Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Adolygiad o lyfr mewn cyfnodolyn neu bapur newydd

This page is also available in English

Adolygiad o lyfr mewn cyfnodolyn neu bapur newydd

Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at adolygiad o lyfr mewn cyfnodolyn neu bapur newydd yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.

Cydnabod o fewn y testun

Enghraifft:

Mae Nagorski (2013) yn nodi bod...
NEU

...(Nagorski, 2013).

Rhestr cyfeiriadau

Adolygiad llyfr mewn cylchgrawn

Cyfenw'r adolygydd, Llythyren flaen/Llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl yr adolygiad [Adolygiad o'r llyfr Teitl y llyfr, gan enw awdur y llyfr]. Teitl y Cylchgrawn, Rhif y Gyfrol(rhifyn neu rif y rhan), rhifau tudalennau. DOI

Enghraifft:

Nagorski, A. (2013). The totalitarian temptation [Adolygiad o'r llyfr The devil in history: communism, fascism and some lessons of the 20th century, gan V. Tismaneanu]. Foreign Affairs, 92(1), 172-176.

Adolygiad llyfr mewn papur newydd

Cyfenw'r adolygydd, Llythyren flaen/Llythrennau blaen. (Blwyddyn, Mis Dydd). Teitl yr adolygiad [Adolygiad o'r llyfr Teitl y llyfr, gan enw awdur y llyfr]. Teitl y papur newydd. URL

Enghraifft:

Santos, F. (2019, Ionawr 11). Reframing refugee children's stories [Adolygiad o'r llyfr We are displaced: My journey and stories from refugee girls around the world, gan M. Yousafzai]. The New York Times. https://nyti.ms/2Hlgjk3

Os nad oes gan yr adolygiad deitl, rhowch y deunydd mewn cromfachau yn syth ar ôl y flwyddyn. Cadwch y cromfachau i nodi bod hwn yn ddisgrifiad o'r ffurf a'r cynnwys yn hytrach na theitl yr adolygiad.