Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at lyfr sydd ag un awdur yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.
Wrth ddyfynnu mewn testun, rhaid darparu cyfenw’r awdur a’r flwyddyn gyhoeddi yn y testun.
Enghraifft:
Mae Neville (2016) yn amlinellu...
NEU
....(Neville, 2016).
Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl (arg.). Cyhoeddwr. DOI (os yw ar gael)
Example:
Neville, C. (2016). The complete guide to referencing and avoiding plagiarism (3ydd arg.). Open University Press.