Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at erthygl mewn cylchgrawn yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.
Enghraifft:
Mae Bergeson and Shapiro (2019) a Lyons (2009) yn nodi bod...
NEU
...(Bergeson & Shapiro, 2019; Lyons, 2009).
Awdur, A. A. (Blwyddyn, Mis Dydd). Teitl yr erthygl. Teitl y Cylchgrawn, Rhif y Gyfrol(rhifyn neu rif y rhan), rhifau tudalennau. DOI
Enghraifft:
Bergeson, S. & Shapiro, B. (2019, Ionawr 4). Really cool neutral plasmas. Science, 363(6422), 33-34. https://doi.org/10.1126/science.aau7988
Enghraifft:
Lyons, D. (2009, Mehefin 15). Don't ‘iTune’ us: It’s geeks versus writers. Guess who’s winning. Newsweek, 153(24), 27.