Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Adroddiadau

This page is also available in English

Adroddiadau

Defnyddiwch yr awdur(on) personol neu'r golygydd(ion) os yw wedi'i restru ar yr adroddiad, fel arall defnyddiwch enw awdur y grŵp.

Cydnabod o fewn y testun

Enghraifft:

Y tro cyntaf:

Mae'r National Institute for Health and Care Excellence (NICE, 2020) yn nodi bod...
NEU
...(National Institute for Health and Care Excellence (NICE), 2020).

Pob tro wedi hynny:

Mae NICE (2020) yn nodi bod...
NEU
...(NICE, 2020).

Sylwer: Os byddwch yn defnyddio’r un dyfyniad sawl gwaith yn eich aseiniad, defnyddiwch acronymau. Rhaid i chi egluro’r acronym yn llawn y tro cyntaf, gyda’r acronym ei hun, fel bod yr ystyr yn amlwg i’r darlithydd.

Rhestr cyfeiriadau

Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. neu Awdur Corfforaethol. (Blwyddyn). Teitl (Rhif y gyfres neu rif cyfeirio os yw ar gael). Cyhoeddwr. URL

Er enghraifft:

Knight, M., Bunch, K., Tuffnell,. D, Shakespeare, J., Kotnis, R., Kenyon, S., & Kurinczuk, J. J. (Eds.). (2020). Saving lives, improving mothers’ care: Lessons learned to inform maternity care from the UK and Ireland confidential enquiries into maternal deaths and morbidity 2016-18. MBRRACE-UK. https://www.npeu.ox.ac.uk/assets/downloads/mbrrace-uk/reports/maternal-report-2020/MBRRACE-UK_Maternal_Report_Dec_2020_v10_ONLINE_VERSION_1404.pdf

Mid Staffordshire NHS Foundation Trust Public Inquiry. (2013). Report of the Mid Staffordshire NHS Foundation Trust Public Inquiry: Executive summary (HC 931). https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/279124/0947.pdf

National Institute for Health and Care Excellence. (2020). Type 2 diabetes in adults: Management (NICE Guideline NG28). https://www.nice.org.uk/guidance/ng28/resources/type-2-diabetes-in-adults-management-pdf-1837338615493

DS: Pan fydd yr awdur ac enw'r Cyhoeddwr yr un peth, hepgor enw'r Cyhoeddwr er mwyn osgoi ailadrodd.