Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Erthygl mewn cyfnodolyn â dau awdur

This page is also available in English

Erthygl mewn cyfnodolyn gyda dau awdur

Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at erthygl mewn cyfnodolyn sydd â dau awdur yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.

Cydnabod o fewn y testun

Os oes gan waith ddau awdur, dylech gyfeirio at y ddau ohonynt.

Enghraifft:
Mae Kwiecinski a Rothschild (2016) yn nodi bod...
NEU
...(Kwiecinski & Rothschild, 2016).

Sylwer: Cysylltwch enwau'r ddau awdur ag a/ac pan fyddwch yn eu henwi y tu allan i gromfachau. Cysylltwch yr enwau ag ampersand (&) y tu mewn i gromfachau.

Rhestr cyfeiriadau

Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen, & Chyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl yr erthygl. Teitl y Cyfnodolyn, Rhif y Gyfrol(rhifyn neu rif y rhan), rhifau tudalennau. DOI

Example:

Kwiecinski, J., & Rothschild, B. (2016). No rheumatoid arthritis in ancient Egypt: A reappraisal. Rheumatology International, 36(6), 891-895. https://doi.org/10.1007/s00296-015-3405-z