Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Safonau

This page is also available in English

Safonau

Ar gyfer y mwyafrif o safonau, yr awdur fydd y sefydliad sy'n gosod y safon.

Ar gyfer y mwyafrif o safonau, y dyddiad fydd y flwyddyn y daeth y safon yn effeithiol. Rhowch y rhif safonol mewn cromfachau ar ôl y teitl heb italig.

Dyfynnu yn y testyn

Enghraifft:

Mae'r International Organization for Standardization (2018) yn nodi...  
NEU
... (International Organization for Standardization, 2018).

Rhestr cyfeiriadau

 Awdur Corfforaethol. (Blwyddyn). Teitl (Rhif y safon). URL 

Enghraifft:

International Organization for Standardization. (2018). Occupational health and safety management systems—Requirements with guidance for use (ISO Standard No. 45001:2018). https://www.iso.org/standard/63787.html