Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Traethawd / Traethawd hir

This page is also available in English

Traethawd neu Draethawd Hir

Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at traethawd neu draethawd hir yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.

Cydnabod o fewn y testun

Wrth gydnabod ffynonell o fewn y testun, rhaid darparu cyfenw’r awdur a’r flwyddyn gyhoeddi yn y testun.

Enghraifft:

Mae Miranda (2019) yn amlinellu... 
NEU
....(Miranda, 2019).

Rhestr cyfeiriadau

Traethawd neu Draethawd Hir wedi'u cyhoeddi

Cyfenw, llythyren/llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl y Traethawd hir doethurol neu Draethawd meistr (Rhif y cyhoeddiad). [Traethawd hir doethurol neu Draethawd meistr, Enw'r Sefydliad]. Enw cronfa ddata. URL

Enghraifft

Miranda, C. (2019). Exploring the lived experiences of foster youth who obtained graduate level degrees: Self-efficacy, resilience, and the impact on identity development (Rhif y cyhoeddiad 27542827). [Traethawd hir doethdurol, Prifysgol Pepperdine]. PQDT Open. https://pqdtopen.proquest.com/doc/2309521814.html?FMT=AI

Wolton, J. L. (2018). "We are probably Wales' best kept secret": An exploration of the role of Care & Repair Cymru caseworkers in facilitating independent living for older people in Wales (Rhif y cyhoeddiad 27792563). [Traethawd hir doethdurol, Prifysgol Abertawe]. Cronfa Prifysgol Abertawe. https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa49017

 

Traethawd neu Draethawd Hir heb ei gyhoeddi

Cyfenw, llythyren/llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl y traethawd hir doethurol neu draethawd meistr (Traethawd hir doethurol heb ei gyhoeddi neu Draethawd meistr). Enw'r Sefydliad.

Enghraifft

Pope, S. (2013). Parental participation in the child protection process [Traethawd meistr heb ei gyhoeddi]. Prifysgol Abertawe.