Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at erthygl mewn papur newydd yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.
Enghraifft:
Mae Ruddick (2013) yn nodi bod...
NEU
...(Ruddick, 2013).
Ar-lein
Awdur, A.A. (Blwyddyn, Mis Dydd). Teitl yr erthygl. Teitl y Papur Newydd, URL
Graham, N. (2013, August 31). A business built on data innovation and clubcard points. Financial Times.
DS: Os nad oes rhifau tudalen ar gael yn erthygl y papur newydd, mae'r cyfeiriad yn yr achos hwn yn gorffen gyda theitl y papur newydd.