Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Cydnabod mwy nag un darn o waith

This page is also available in English

Cydnabod ffynonell o fewn y testun

Os ydych yn cyfeirio at ddau ddarn o waith neu ragor yn yr un cromfachau, dylech eu rhestru yn ôl enwau’r awduron yn nhrefn yr wyddor.

Enghraifft:

...(Ashley et al., 2014; Kwiecinski & Rothschild, 2016).

Trefnwch ddau waith neu fwy gan yr un awduron (yn yr un drefn) yn ôl blwyddyn gyhoeddi.  Rhowch gyfenwau'r awduron unwaith; ar gyfer pob gwaith dilynol, rhowch y dyddiad yn unig.

Enghraifft:

...(Davies, 2008, 2010, 2012).

Rhestr cyfeiriadau

Ashley, C., Kibbe, S., & Thornton, S. (2014). Experiential learning in second Life: A simulation in retail management. Atlantic Marketing Journal, 3(2), 94-113. https://digitalcommons.kennesaw.edu/cgi/viewcontent.cgi?article=1123&context=amj

Kwiecinski, J., & Rothschild, B. (2016). No rheumatoid arthritis in ancient Egypt: A reappraisal. Rheumatology International, 36(6),891-895. https://doi.org/10.1007/s00296-015-3405-z