Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Meddalwedd

This page is also available in English

Meddalwedd

Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at feddalwedd yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.

Cydnabod o fewn y testun

Enghraifft:

Mae Clarivate Analytics (2019) yn dangos bod...

NEU

...(Clarivate Analytics, 2019).

Cydnabod o fewn y testun

Ap

Enghraifft:

Mae Prifysgol Abertawe a Choleg Cymraeg Cenedlaethol (2018) yn dangos bod...
NEU

...(Prifysgol Abertawe & Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 2018).

Rhestr cyfeiriadau

Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen neu Awdur Grŵp. (Blwyddyn). Teitl y meddalwedd neu raglen (Rhif y fersiwn) [Meddalwedd cyfrifiadurol]. Cyhoeddwr neu Enw'r App Store. URL

Enghraifft: 

Clarivate Analytics. (2019). Endnote (Fersiwn 3.0.1) [Meddalwedd cyfrifiadurol]. App Store. 
https://apps.apple.com/gb/app/endnote/id593994211

Rhestr cyfeiriadau

Ap

Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen neu Awdur Grŵp. (Blwyddyn). Teitl y meddalwedd neu raglen (Rhif y fersiwn) [Ap symudol]. Cyhoeddwr neu Enw'r App Store. URL

Enghraifft:

Swansea University., & Coleg Cymraeg Cenedlaethol. (2018). Gofalu trwy’r Gymraeg / Caring through Welsh (Fersiwn 4.2) [Ap symudol]. Google Play Store. https://play.google.com/store/apps/details?id=com.galactig.caring&hl=en