Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): YouTube/Fideos ar-lein

This page is also available in English

YouTube

Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at fideo YouTube yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.

Cydnabod o fewn y testun: Fideo ar YouTube

Enghraifft:

Mae Fogarty (2020) a Harvard University (2019) yn dangos...
NEU
...(Fogarty, 2020; Harvard University, 2019).

Cydnabod o fewn y testun: Sianel YouTube

Enghraifft:

Mae APA Publishing Training (n.d.) a Walker (n.d.) yn nodi...
NEU

...(APA Publishing Training, n.d.; Walker, n.d.).

Rhestr cyfeiriadau: Fideo ar YouTube

Enw'r cyfrif. [Enw Sgrin]. (Blwyddyn, Mis Dydd). Teitl [Video]. YouTube. URL

Enghraifft:

Fogarty, M. [Grammar Girl]. (2020, Mawrth 10). ‘Pandemic’ vs. ‘epidemic’—What's the difference? [Fideo]. YouTube. https://www.youtube.com/watch?v=jsbgF3OhlJw 

Harvard University. (2019, Awast 28). Soft robotic gripper for jellyfish [Fideo]. YouTube. https://www.youtube.com/watch?v=guRoWTYfxMs 

DS: Defnyddiwch enw'r cyfrif a uwchlwythodd y fideo fel yr awdur.

Os yw enw defnyddiwr ac enw go iawn awdur yn hysbys, fel ar gyfer rhai awduron cyfryngau cymdeithasol unigol a grŵp, rhowch enw go iawn yr unigolyn neu'r grŵp, ac yna'r enw defnyddiwr mewn cromfachau sgwâr.

Rhestr cyfeiriadau: Sianel YouTube

Person neu Grŵp a uwchlwythodd fideo. (n.d.). Teitl. [Sianel YouTube]. YouTube. Adalwyd Mis Dydd, Blwyddyn, o URL

Enghraifft:

APA Publishing Training. (n.d.). Home [Sianel YouTube]. Adalwyd Chwefror 20, 2020, o https://www.youtube.com/user/PsycINFO/

Walker, A. (n.d.). Playlists [Sianel YouTube]. YouTube. Adalwyd Hydref 8, 2019, o https://www.youtube.com/user/DjWalkzz/playlists


DS: Mae tudalennau sianel YouTube yn cychwyn ar y tab “Cartref” yn ddiofyn. Os ydych chi am ddyfynnu un o’r tabiau eraill (e.e., “Fideos,” “Rhestrau Chwarae”), defnyddiwch enw’r tab hwnnw yn hytrach na “Cartref” yn elfen deitl y cyfeirnod (fel yn enghraifft Walker).

Rhowch ddyddiad adalwyd oherwydd bod y cynnwys wedi'i gynllunio i newid dros amser ac nad yw wedi'i archifo.