Mae'r enghraifft ganlynol yn addas ar gyfer pob adroddiad busnes gan gynnwys adroddiadau cwmnïau, adroddiadau diwydiant ac adroddiadau ymchwil marchnad. Yn aml nid oes awdur ar gyfer adroddiadau busnes. Yn yr achosion hyn defnyddiwch enw awdur y grŵp.
Enghraifft:
Mae MarketLine (2020) yn dangos bod...
NEU
...(MarketLine, 2020).
Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. neu awdur y grŵp. (Blwyddyn). Teitl yr adroddiad (rhif yr adroddiad). Enw'r cronfa ddata. URL
Enghraifft:
MarketLine. (2020). Mobile phones in Europe. http://advantage.marketline.com/
McGrath, R. (2020). Social media: Inc. impact of COVID-19 - UK. Mintel. https://reports.mintel.com/