Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Llyfr â tri awdur neu fwy

This page is also available in English

Llyfr â tri awdur neu fwy

Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at lyfr sydd â tri awdur neu fwy yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeiriadau ar y diwedd.

Cydnabod o fewn y testun

Os oes tri awdur neu fwy mewn gwaith dim ond yr awdur cyntaf y dylid ei enwi ac yna et al. a'r dyddiad

Enghraifft:
Yn ôl McDuff et al. (2017)....
NEU
...(McDuff et al., 2017).

Rhestr cyfeiriadau

Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen., Chyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen., & Chyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl (arg.). Cyhoeddwr. DOI (os yw ar gael)

Enghraifft:

McDuff, C., Smith, J., Kensington, K., Jones, S., Coughlan, S., Bortolin, L., Witte, M., Scott, A., Newport, A., Jensen, K., Wutzler, J., van Staden, I., McLean, J., Bergsma, G., Dowman, B., Petrie, K., Higgens, D., McCloud, R., Jessop, L. & Duncan, P. (2017). An introduction to quantitative analysis in finance. Houghton.

Sylwer: Yn y rhestr gyfeirio, dylech gynnwys pob awdur, fodd bynnag, os oes gan gyfeirnod 21 neu fwy o awduron, rhestrir yr 19 awdur cyntaf ac yna ... ac yna'r awdur olaf.