Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Blogs

This page is also available in English

Blogiau a sylwadau ar Flog

Mae postiadau blog yn dilyn yr un fformat ag erthyglau cyfnodolion. Italaiddwch enw'r blog, yr un peth ag y byddech chi'n ei wneud mewn teitl cyfnodolyn.

Cydnabod o fewn y testun: Blog

Enghraifft:

Yn ôl Ouellette (2019)...
NEU

...(Ouellette, 2019).

Rhestr cyfeiriadau: Blog

Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn, Mis Dydd). Teitl. Enw'r Blog. URL 

Enghraifft:

Ouellette, J. (2019, Tachwedd 15). Physicists capture first footage of quantum knots unraveling in         superfluid. Ars Technica. https://arstechnica.com/science/2019/11/study-you-can-tie-a-quantum-knot-in-a-superfluid-but-it-will-soon-untie-itself/