Isod ceir arweiniad ac enghreifftiau o sut i gyfeirnodi gwaith mewn antholeg yng ngorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeiriadau ar y diwedd.
Dylai gwaith mewn antholeg gael ei restru fel pennod mewn llyfr golygedig. Dylid defnyddio awdur y gwaith ar gyfer cyfeirio yn y testun. Gallwch ddefnyddio system dyddiad cyfunedig lle mai’r dyddiad cyntaf yw’r dyddiad gwreiddiol a’r ail yw dyddiad yr anthloeg.
Enghraifft:
Noda Wordsworth a Coleridge (1798/2012) fod...
NEU
...(Wordsworth & Coleridge, 1798/2012).
Enghraifft:
Mae Lewis (1948/1999) yn nodi bod...
NEU
...(Lewin, 1948/1999).
Yn printiedig
Cyfenw, blaenlythrennau. (Blwyddyn). Teitl y bennod. Yn blaenlythyren. Cyfenw (Goln), Teitl y llyfr (argraffiad, tudalennau’r bennod). Cyhoeddwr. (Cyhoeddwyd y gwaith gwreiddiol bbbb).
Enghraifft:
Wordsworth, W., & Coleridge, S. T. (2012). Lyrical ballads. Yn D. Wu (Gol.), Romanticism: An anthology (tt. 333-415). Cambridge University Press. (Cyhoeddwyd y gwaith gwreiddiol 1798).
Ar-lein
Cyfenw, blaenlythrennau. (Blwyddyn). Teitl y bennod. Yn blaenlythyren. Cyfenw (Goln), Teitl y llyfr (argraffiad, tudalennau’r bennod). Cyhoeddwr. DOI (Cyhoeddwyd y gwaith gwreiddiol bbbb).
Eenghraifft
Lewin, K. (1999). Group decision and social change. In M. Gold (Gol.). The complete social scientist: A Kurt Lewin reader (tt. 265-284). American Psychological Association. https://doi.org/10.1037/10319-010 (Cyhoeddwyd y gwaith gwreiddiol 1948)