Mae gan argraffiad beirniadol system dyddiad dwbl lle’r ydych yn defnyddio dyddiad y testun gwreiddiol a dyddiad yr argraffiad, wedi’u gwahanu gyda slaes.
Enghreifftiau:
Yn ôl Shelley (1818/2012)...
NEU
... (Shelley, 1818/2012).
Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl y llyfr (Golygydd, Goln.; argraffiad). Cyhoeddwr. DOI (os yw ar gael) (Cyhoeddwyd y gwaith gwreiddiol bbbb).
Enghraifft:
Shelley, M. (2012). Frankenstein (J. P. Hunter, Gol.; 2il Norton critical arg.). W. W. Norton. https://doi.org/10.1037/10319-010 (Cyhoeddwyd y gwaith gwreiddiol 1818).