Os ydych yn cyfeirio at ddau ddarn o waith neu ragor yn yr un cromfachau, dylech eu rhestru yn ôl enwau’r awduron yn nhrefn yr wyddor.
Enghraifft:
...(Boon et al., 2019; Kwiecinski & Rothschild, 2016).
Trefnwch ddau waith neu fwy gan yr un awduron (yn yr un drefn) yn ôl blwyddyn gyhoeddi. Rhowch gyfenwau'r awduron unwaith; ar gyfer pob gwaith dilynol, rhowch y dyddiad yn unig.
Enghraifft:
...(Davies, 2018, 2020, 2022).
Boon, C., Den Hartog, D. N., & Lepak, D. P. (2019). A systematic review of human resource management systems and their measurement. Journal of Management, 45(6), 2498–2537. https://doi.org/10.1177/0149206318818718
Kwiecinski, J., & Rothschild, B. (2016). No rheumatoid arthritis in ancient Egypt: A reappraisal. Rheumatology International, 36(6),891-895. https://doi.org/10.1007/s00296-015-3405-z