Skip to Main Content

EndNote

This page is also available in English

Bydd EndNote yn:

Bydd EndNote yn: 

  • storio ac yn rheoli cyfeiriadau yn eich cronfa ddata eich hun fel y byddwch yn gwybod ble maen nhw.  
  • gweithio gyda Word i fformatio’ch cyfeiriadau mewn ystod eang o arddulliau.
  • mewnforio cyfeiriadau o lawer o gronfeydd data ar-lein megis Web of Science ac ni fydd angen i chi eu teipio.    

Beth os nad oes gennyf EndNote ar fy nghyfrifiadur personol?

Mae’r drwydded bellach yn ddilys i’w defnyddio ar eich dyfais eich hun cyhyd â’ch bod yn fyfyriwr neu’n aelod staff ym Mhrifysgol Abertawe. I lawrlwytho eich copi eich hun o EndNote bydd angen ichi fewngofnodi i MyUni gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ym Mhrifysgol Abertawe.

Ceir EndNote yn adran “Meddalwedd arall sydd ar gael” y wefan. Mae ar gael fel fersiynau Windows a MAC. Nid oes angen côd trwydded gan fod hynny wedi’i gynnwys yn y gosodwr felly caiff ei roi’n awtomatig. 

Ar gampws:

Ceir EndNote (y fersiwn bwrdd gwaith) yn yr adran Apiau Cyffredin ar gyfrifiaduron mynediad agored. Os nad oes gennych EndNote, gofynnwch i’ch technegydd lleol neu cyflwynwch gais trwy ddesg wasanaeth TG (ar gael ar gyfer peiriannau y mae’r Brifysgol yn berchen arnynt yn unig).

Hyfforddiant

Mae’r llawlyfrau a tiwtoralau yr ydym yn eu defnyddio ar gyfer ein cyrsiau ar gael isod.

Fideos hyfforddiant EndNote

Mae nifer fawr o fideos ar gael i helpu gydag EndNote ac maent yn ymdrin a phopeth o gyfiwyniad cyffredinol i dasgau penodol. Cliciwch ar y ddolen fideos EndNote uchod i weld mwy.

Fersiwn Macintosh

Mae fersiwn o EndNote ar gael ar gyfer y Macintosh. Hefyd mae ap EndNote am ddim ar gyfer yr IPAD a fydd yn cysoni â’ch llyfrgell ar-lein. Gellir lawrlwytho hyn o iTunes.

Dosbarthiadau Sgiliau Llyfrgell