Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA

This page is also available in English

Defnyddio acronymau yn eich aseiniad

Os byddwch yn cydnabod yr un ffynonell sawl gwaith yn eich aseiniad, defnyddiwch acronymau. Rhaid i chi egluro’r acronym yn llawn y tro cyntaf, gyda’r acronym ei hun, fel bod yr ystyr yn amlwg i’r darlithydd.

Enghraifft:

Y tro cyntaf:

Mae'r World Health Organization (WHO, 2018) yn nodi bod...
NEU
...(World Health Organization (WHO), 2018).

Pob tro wedi hynny:

Mae'r WHO (2018) yn nodi bod...
NEU
...(WHO, 2018).

 

Rhestr cyfeiriadau:

Defnyddiwch y fersiwn llawn o'r acronym.

Enghraifft:

World Health Organization. (2022, Hydref 1). Ageing and health. https://www.who.int/news-room/fact-sheets/detail/ageing-and-health