Os oes gan waith ddau awdur, dylech gyfeirio at y ddau ohonynt.
Enghraifft:
Mae McMillan a Weyers (2011) yn nodi bod...
NEU
...(McMillan & Weyers, 2011).
Sylwer: Cysylltwch enwau'r ddau awdur ag a/ac pan fyddwch yn eu henwi y tu allan i gromfachau. Cysylltwch yr enwau ag ampersand (&) y tu mewn i gromfachau.
Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen., & Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl (arg.). Cyhoeddwr. DOI (os yw ar gael)
Enghraifft:
McMillan, K., & Weyers, J. D. B. (2011). How to write essays & assignments. Pearson.