Dyma bwyntiau allweddol i'w cofio wrth greu eich rhestr gyfeiriadau:
- Dylid cychwyn y rhestr gyfeirio ar dudalen newydd. Dylai'r gair “Cyfeiriadau” fod mewn print trwm ac yn ganolog.
- Dylai'ch rhestr gyfeiriadau gynnwys popeth* rydych wedi'i ddyfynnu yn eich aseiniad, NID popeth rydych wedi'i ddarllen (a elwir yn llyfryddiaeth).
- Dylai fod yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw'r awdur.
- Dylai fod bylchau dwbl rhwng llinellau a dylai fod wedi'i mewnoli.
- *Oni bai am Ddeddfau a chyfraith achos – ni restrir y rhain yn y rhestr gyfeiriadau.
Gweler y sgrinlediad sy'n dangos sut y gallwch roi trefn ar eich rhestr gyfeiriadau'n gywir gan ddefnyddio Word.