Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA

This page is also available in English

Erthygl mewn cyfnodolyn nad yw enw'r awdur yn hysbys

Pan nad yw awdur gwaith yn hysbys, yn y testun, dyfynnwch y geiriau cyntaf yn y cofnod ar y rhestr gyfeiriadau (y teitl fel arfer) a'r flwyddyn. Defnyddiwch ddyfynodau dwbl o gwmpas teitl erthygl, pennod neu dudalen we, a rhowch deitl cyfnodolyn, llyfr, llyfryn neu adroddiad mewn llythrennau italaidd.

Pan roddir "Dienw" fel awdur gwaith, rhowch y gair Dienw yn y testun, gydag atalnod a'r dyddiad ar ei ôl.

Cydnabod o fewn y testun

Enghraifft:

Mae “Supporting healthy” (2013) yn disgrifio....
NEU
...(“Supporting healthy", 2013).

Rhestr cyfeiriadau

Teitl yr erthygl. (Blwyddyn). Teitl y Cyfnodolyn, Rhif y Gyfrol(rhifyn neu rif y rhan), rhifau tudalennau. DOI (os yw ar gael)

Enghraifft:

Supporting healthy and normal physiologic childbirth: A consensus statement by ACNM, MANA, and NACPM*. (2013). Journal of Perinatal Education, 22(1), 14-18.